Cyfres o sgyrsiau a seiniau yn edrych ar y dyfodol o safbwynt Cymreig. Dewch gyda ni ar daith sain drwy ddyfodoliaeth, ffuglen wyddonol a syniadau am lle fydd Cymru’n mynd yn y dyfodol pell ac agos. Daw’r podlediad gan @cymruddyfodol a Rhodri ap Dyfrig @Nwdls. Dwedwch helo yno os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r sgwrs. * * * * * For those of you playing in English* * * * * TCF is an occasional show that looks at futures and alternative realities from a Welsh perspective. Come with us on a jo ...
…
continue reading
Sgwrs efo’r arlunydd, pensaer a pheiriant diwylliannol Efa Lois. Ymysg y pynciau yn y sgwrs oedd adeiladau Brwtalaidd Cymru, cloriau gwallgo llyfrau ffuglen wyddonol, Moomins, a chyswllt y gofod ar Mabinogi. Mwynhewch!
…
continue reading
Ar ôl hir-oedi dyma ailafael gyda chwip o westai. Awdur, colofnydd a straight up ffan sci-fi - Manon Steffan Ros. Nethon ni drafod llenyddiaeth wyddonias gan fwyaf yn ddigon naturiol gan drafod hoff awduron Manon, sut wnaeth hi ddod at y genre, Llyfr Glas Nebo, a sut i uniaethu gyda alien (sut allet ti beidio?). Hefyd: SEXY CAPTAIN NEMO, OCTOPI a S…
…
continue reading
1
#3 Gofod - Stori fer gan Dyfan Maredudd Lewis
25:32
25:32
Прослушать позже
Прослушать позже
Списки
Нравится
Нравится
25:32
Enillodd Dyfan Lewis y gystadleuaeth stori fer yn Eisteddfod Caerdydd eleni. Y thema oedd Gofod, ac mae’n stori wych. Es i lawr i Graig Cefn Parc i recordio Dyfan yn darllen ei stori ar gyfer eich pleser chi. Mae dathliadau yn thema, felly mae gwrando arni dros y Nadolig yn eitha addas. Mae Dyfan hefyd yn ffotograffydd a barddonwr; ewch draw i’w gy…
…
continue reading
Sgwrs gyda'r dylunydd, artist, darlithydd a dyfodolydd o Aberteifi. Gallwch chi weld y gwaith I'r Byd Dyfodol yn ogystal ag archifo'i waith blaenorol ar ei wefan http://hefinjones.co.uk/ibd-ttfw/
…
continue reading
Sgwrs gyda’r datblygwr meddalwedd a chynhyrchydd digidol am iaith, tecno, cymunedau arlein, swyddi’r dyfodol ac ychydig rwdlan am Huw Jones a'r Diliau. Dilynwch Carl ar http://twitter.com/carlmorris neu edrych ar ei wefan http://morris.cymru
…
continue reading
Mae podlediad Cymru Fydd ar fin cychwyn! Dyma ragflas o’r pethau sydd i ddod. Sticiwch hwn yn eich tansygrifiadau os am sgyrsiau, celf a seiniau hyfryd, oll gyda’r dyfodol yn rhedeg drwyddynt.
…
continue reading